// 2022 date confirmed!

2022 date confirmed!

6 FEBRUARY 2021 10:00

Organisers are pleased to confirm that the second edition of the Aberystwyth-based Get Connected Rali Bae Ceredigion will take place over the weekend of 3rd & 4th September 2022, the only closed road stage rally in Wales set to make its welcome return after a three-year break.

After making a highly successful debut in September 2019, the rally was intended to be an annual occasion. But like many others, prevailing circumstances mean the event cannot take place until 2022. Therefore, at a time of continued uncertainty for event organisers, this announcement is seen as an extremely positive move that establishes a realistic date.

“We are delighted to announce what we consider to be a target we can work towards with confidence”, says Chairman of the Get Connected Rali Bae Ceredigion Organising Committee Phil Pugh.

“It’s always been our intention to organise the rally when the time is right and not before. The event was so well received when it was held in September 2019, we intend to build on that reputation for 2022. Of course, we cannot achieve this without the support of the local community; residents, businesses, authorities, emergency services and the general public.

“Therefore, we’ll be using this period of lead-time to good effect. It will enable us to provide a fantastic experience for competitors, spectators and commercial partners, as well as create another weekend to remember for everyone involved!”

As it did in 2019, the 2022 event will start and finish in Aberystwyth and continue its close associations with the town’s award-winning University. Organisers promise an extended route that like before, will feature a series of challenging and inspiring timed special stages on closed roads over the Cambrian Mountains.

Further news and details surrounding the 2022 Get Connected Rali Bae Ceredigion will be announced over the coming months.

ENDS

2022 Cadarnhau dyddiad Rali Bae Ceredigion Get Connected

Mae'r trefnwyr yn falch iawn o gadarnhau y bydd Rali Bae Ceredigion Get Connected yn cael ei chynnal am yr ail dro dros benwythnos 3 a 4 Medi 2022, gyda'r unig rali cymalau ffyrdd caeedig yng Nghymru yn dychwelyd ar ôl seibiant o dair blynedd.

Ar ôl y rali gyntaf hynod lwyddiannus ym mis Medi 2019, y bwriad oedd i'r rali fod yn achlysur blynyddol. Ond fel llawer o ddigwyddiadau eraill, mae'r amgylchiadau digynsail wedi golygu nad oedd modd cynnal y digwyddiad yn 2020 a 2021. Felly, ar adeg o ansicrwydd parhaus i drefnwyr digwyddiadau, ystyrir bod y cyhoeddiad heddiw yn gam cadarnhaol iawn sy'n sefydlu dyddiad realistig.

“Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi'r hyn a ystyriwn yn darged y gallwn ni weithio tuag ato yn hyderus", meddai Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Rali Bae Ceredigion Get Connected, Phil Pugh.

“Ein bwriad ni drwy'r cyfnod hwn oedd trefnu'r rali pan fyddai'r amser yn iawn, ac nid cyn hynny. Cafodd y rali dderbyniad gwresog pan gafodd ei chynnal ym mis Medi 2019, ac rydyn ni'n bwriadu adeiladu ar yr enw da hwnnw ar gyfer 2022. Wrth gwrs, ni allwn ni gyflawni hyn heb gefnogaeth y gymuned leol; trigolion, busnesau, awdurdodau, y gwasanaethau brys a'r cyhoedd.

“Felly, byddwn ni'n defnyddio'r amser sydd gennym ni o'n blaenau yn effeithiol. Bydd yn ein galluogi ni i ddarparu profiad gwych i gystadleuwyr, gwylwyr a'n partneriaid masnachol – a phenwythnos bythgofiadwy arall i bawb sy'n rhan o'r digwyddiad!”

Unwaith eto, bydd Rali Bae Ceredigion Get Connected yn dechrau ac yn gorffen yn Aberystwyth, a bydd ei chysylltiadau agos â Phrifysgol y dref yn parhau. Mae'r trefnwyr yn addo llwybr estynedig ar gyfer 2022 a fydd, fel o'r blaen, yn cynnwys cyfres o gymalau arbennig heriol ac ysbrydoledig wedi'u hamseru ar ffyrdd caeedig dros Fynyddoedd Cambria.

Bydd newyddion a manylion pellach ynghylch Rali Bae Ceredigion Get Connected 2022 yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.

DIWEDD

Event Sponsor
Event Sponsor
Website Sponsor
Website Sponsor
Sponsors & Partners
Spencer ECA
Monnow Marquees

Rali Bae Ceredigion - SAVE THE DATE: 3rd & 4th September 2022